Lila Downs
Oddi ar Wicipedia
Lila Downs'n perfformio yn Mexico yn 2009.
Cantores a chyfansoddwr folk Latino yw Ana Lila Downs Sánchez (ganwyd Lila Downs 19 Medi 1968 yn Oaxaca, Mexico). Mae'n canu ei chaneuon ei hun yn ogystal â pherfformio caneuon traddodiadol Mexico ac mewn ieithoedd brodorol eraill megis: Mixteg, Zapoteg, Maya, Nahuatleg a P'urhépecha.
Mae llawer cantores yn y byd Mexico yn ceisio dynwared Lila Downs. Albanwr-Americanwr oedd ei thad a oedd yn Athro Celf ym Mhrifysgol Minnesota. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn Oaxaca a graddiodd mewn canu ac anthropoleg ym Minesota. Mecsicanes a dawnswraig cabaret oedd ei mam.
Yn 1994 recordiodd ei chryno-ddisg cyntaf, sef "Ofrenda" ac mae hi'n canu yn Sbaeneg, Saesneg ac Mixteneg ar y recordiad hwnnw.
Cynnwys |
Disgograffi [golygu]
CD [golygu]
- 1994 – Ofrenda
- 1999 – La Sandunga
- 1999 – Trazos
- 2000 – Árbol de la vida
- 2001 – La Línea
- 2004 – Una sangre,
- 2006 – La Cantina
- 2008 – The Very Best Of Lila Downs (El Alma De Lila Downs) (CD+DVD)
- 2009 – Ojo de Culebra (Shake Away)
- 2010 – Lila Downs y La Misteriosa «En París Live à Fip»
DVD [golygu]
- 2006 – Lotería Cantada
- 2007 – The Very Best Of Lila Downs (El Alma De Lila Downs)
- 2010 – Lila Downs y La Misteriosa «En París Live à Fip»
Cysylltiadau allanol [golygu]
- Tudalen swyddogol Lila Downs
- Letras de canciones en lyrics.time.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: