Levi Stubbs
Canwr bariton Americanaidd oedd Levi Stubbles, a adnabyddwyd orau odan ei enw llwyfan, Levi Stubbs (6 Mehefin 1936–17 Hydref 2008). Adnabyddwyd orau fel prif lais grŵp R&B Motown, The Four Tops
Bywgraffiad[golygu]
Ganwyd yn Detroit yn 1936,[1] a dechreuodd ei yrfa canu proffesiynol gyda'i ffrindiau, Abdul "Duke" Fakir, Renaldo "Obie" Benson a Lawrence Payton, gan ffurfio grŵp canu The Four Aims yn 1954. Dyflwydd yn ddiweddarach, ar ôl arwyddo cytundeb gyda label Chess Records, newidiodd y grŵp eu enw i Four Tops - er mwyn osgoi drysu rhyngddynt a grŵp Ames Brothers a oedd yn boblogaidd ar y pryd.[1] Dechreuodd y grŵp fel act clwb-swper cyn arwyddo cytundeb gyda Motown Records yn 1963; erbyn diwedd y ddegawd, rodd gan y Four Tops drost ddwsin o hitiau i'w henw. Mae'r mwyaf poblogaidd yn cynnwys "Baby I Need Your Loving", "I Can't Help Myself (Sugar Pie, Honey Bunch)", "It's the Same Old Song", "Reach Out I'll Be There", "Standing in the Shadows of Love", "Bernadette", "Still Water (Love)", ac "Ain't No Woman (Like the One I've Got)".
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ 1.0 1.1 Stars mourn Four Tops star Stubbs. BBC (28 Hydref 2008).