Leopold Kohr
Oddi ar Wicipedia
Roedd Leopold Kohr (5 Hydref 1909 yn Oberndorf bei Salzburg, Awstria – 26 Chwefror 1994 yng Nghaerloyw, Lloegr) yn economegydd, cyfreithegwr, anarchydd a gwyddonydd gwleidyddol. Prif thema ei waith oedd pwysigrwydd maint endidau gwleidyddol ac economaidd; roedd yn credu'n gryf mai'r duedd i greu endidau a gwladwriaethau mawr, grymusgar oedd wrth wraidd llawer o broblemau'r byd, ac mai cynnal endidau llai oedd y ffordd orau i wella'r byd. Buodd weithio ym Mhrifysgol Puerto Rico ac ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Roedd ganddo berthynas glòs â chenedlaetholdeb Cymreig
Llyfryddiaeth [golygu]
- Cymru Fach Y Lolfa, 1980
- Small is Beautiful: Detholiad o'i ysgrifau. Wien, 1995.
- The Academic Inn, Lolfa, 1993.
- The Inner City: From Mud To Marble, Lolfa, Dyfed, 1989.
- Development Without Aid: The Translucent Society, Schocken Books, 1979.
- The Overdeveloped Nations: The Diseconomies Of Scale, Schocken, 1978.
- The City Of Man: The Duke Of Buen Consejo, Univ Puerto Rico, 1976.
- Is Wales Viable?, C. Davies, 1971.
- The Breakdown of Nations, Routledge & K. Paul, 1957 (fersiwn 1986 Routledge ar wefan books.google.com); - ei lyfr enwocaf
- "Disunion Now: A Plea for a Society based upon Small Autonomous Units", a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn The Commonweal ym 1941 dan y ffug-enw Hans Kohr.