Le Malade imaginaire

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun o'r ddrama gan Honoré Daumer

Drama Ffrangeg gan Molière yw Le Malade Imaginaire (yn fras, "Y gŵr sy'n dychmygu ei fod yn glaf"). Y ddrama yma oedd drama olaf Molière; fei'i perfformiwyd gyntaf yn gynnar yn 1673, a chymerwyd yr awdur yn wael yn ystod y pedwerydd perfformiad, ar 17 Chwefror, 1673. Bu farw yn fuan wedyn.

Arwr y ddrama yw Argan, cybydd sy'n dychmygu ei fod yn wael. Mae ei feddygon yn manteisio ar hyn i gael arian ganddo. Dymuniad Argan yw i'w ferch, Angelique, briodi meddyg, er mwyn iddo gael triniaeth am ddim, ond mae hi eisoes mewn cariad a Cleante.

Mae brawd Argan, Beralde, a morwyn Argan, Toinette, yn perswadio Argan i gymeryd arno ei fod wedi marw, er mwyn dareganfod pwy sy'n ei garu mewn gwirionedd. Mae Argan yn darganfod mai dim ond ar ôl ei arian y mae ei ail wraig, tra mae Angelique yn ei garu er ei fwyn ei hun. Y canlyniad yw fod Argan yn cytuno i Angelique briodi ei dewis ei hun.

Cyfieithiad[golygu]

Cyfieithiwyd y ddrama gan Bruce Griffiths dan y teitl Y Claf Diglefyd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1972). Mae'r llyfr allan o brint ers blynyddoedd, ond cewch lwytho i lawr copi yn rhad ac am ddim o'r ddolen ganlynol ar wefan Gwasg Prifysgol Cymru: