Laozi

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Athronydd Tsieineaidd oedd Laozi neu Lao Tzu (Tsieinëeg: 老子 Lǎozǐ). Mae ei waith yn ganolog i Daoaeth, athroniaeth led-grefyddol sy'n tarddu o Tsieina. Yn ôl y ffynonellau traddodiadol, roedd Laozi'n byw yn y 6ed ganrif CC ac yn awdur y Tao Te Ching. Yn ôl haneswyr diweddar, mae'n bosibl ei fod yn ffigwr cyfansawdd neu'n athronydd o'r 4edd ganrif CC. Mae'r cyfeiriad cynharaf at Laozi i'w cael yn y Shiji ("Cofnodion yr Hanesydd"), a gafodd ei ysgrifennu tua 100 CC gan Sima Qian.

Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am Tsieina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol