Kate Winslet
| Kate Winslet | |
|---|---|
Kate Winslet |
|
| Ganwyd | 5 Hydref, 1975 Reading, Berkshire, |
| Enwau eraill | Katherine Elizabeth "Kate" Winslet |
| Yn enwog am | Titanic, Revolutionary Road, The Reader |
| Galwedigaeth | Actores, cantores |
Actores a chantores o Loegr yw Katherine Elizabeth "Kate" Winslet (ganed 5 Hydref 1975). Mae'n adnabyddus am chwarae ystod eang o gymeriadau, ond efallai caiff ei chydnabod fwyaf am ei pherfformiad fel Juliet Hulme yn Heavenly Creatures (1994), Marianne Dashwood yn Sense and Sensibility, Rose DeWitt Bukater yn Titanic, Iris Murdoch yn Iris (2001), Clementine Kruczynski yn Eternal Sunshine of the Spotless Mind (2004), Sarah Pierce yn Little Children (2006), Hanna Schmitz yn The Reader (2008), ac April Wheeler yn Revolutionary Road (2008).
Fe'i hanrhydeddwyd gan wobrau sy'n amrywio o Gymdeithas yr Actorion Sgrîn, Gwobrau BAFTA a'r Golden Globes. Mae Winslet hefyd wedi ennill Gwobr Grammy yn ogystal â chaiff ei henwebu am Oscar ar bump achlysur a Gwobr Emmy. Pan oedd yn 22 oed, torrodd y record am y person ifancaf erioed i gael ei henwebu am ddwy Oscar[1]. Dywed David Edelstein o New York Magazine taw Winslet yw'r "best English-speaking film actress of her generation"[2].
Ffilmiau [golygu]
- Heavenly Creatures (1994)
- Sense and Sensibility (1995)
- Jude (1996)
- Hamlet (1996)
- Titanic (1997)
- Hideous Kinky (1998)
- Holy Smoke (1999)
- Quills (2000)
- Enigma (2001)
- Christmas Carol:The Movie (2001)
- Iris (2001)
- The Life of David Gale (2003)
- Eternal Sunshine of the Spotless Mind (2004)
- Finding Neverland (2004)
- Romance & Cigarettes (2005)
- All the King's Men (2006)
- Little Children (2006)
- Flushed Away (2006)
- The Holiday (2006)
- The Fox and the Child (2008)
- The Reader (2008)
- Revolutionary Road (2008)