Kate Beckinsale

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kate Beckinsale ym mis Medi 2008

Mae Kathryn Bailey "Kate" Beckinsale (ganed 26 Gorffennaf 1973) yn actores Seisnig sydd fwyaf adnabyddus am ei rôlau yn y ffilmiau Pearl Harbor (2001), Underworld (2003), Van Helsing (2004), a The Aviator (2004).

Cafodd ei geni yn Finsbury Park, Llundain ac astudiodd yng Ngholeg Newydd Rhydychen, er na orffennodd ei chwrs yno. Merch yr actorion Richard Beckinsale a Judy Loe yw hi.

Mae gan Beckinsale ferch â'i gyn-gariad tymor-hir, yr actor Cymreig Michael Sheen; ganwyd Lily Mo Sheen ar 31 Ionawr 1999. Priododd Beckinsale y cyfarwyddwr ffilm Len Wiseman ar 9 Mai 2004.