Kūkai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kukai

Arweinydd crefyddol a llenor o Siapan a adnabyddir hefyd dan ei enw crefyddol Kōbō Daishi oedd Kūkai (774-835).

Yn bolymath o ysgolhaig athrylithgar, roedd un o brif ffigyrau bywyd ymenyddol y cyfnod Heian a'r Siapanwr cyntaf i ysgrifennu Tseinaeg lenyddol o safon uchel; ffrwyth ei daith i Tseina (804-806). Ar ôl dychwelyd i Siapan cododd fynachlog ar fynydd Kōyasan, tua 50 milltir i'r de o Heian Kyo (Kyoto heddiw) ac yno yn 816 sefydlodd yr enwad Shingon ("Y Gair Cywir") sy'n cyfuno Bwdhiaeth gyfriniol ag elfennau o Shintō, crefydd genedlaethol Siapan, ynghyd â phwyslais pantheistaidd.

Yn ôl traddodiad Kūkai yw sefydlwr y wyddor sillafaidd Siapanaeg Kana, sail y Katakana a'r Hiragana a ddefnyddir heddiw. Ysgrifenodd Kūkai sawl traethawd crefyddol ac athronyddol, e.e. Sokushin-Jobutsu-Gi ("Egwyddor Cyrraedd Bwdha-iaeth yn y Corff Presennol"). Ei waith llenyddol pwysicaf yw'r Shōrai Mokuroku, sy'n gyfuniad o hunangofiant ysbrydol yr awdur a deialog athronyddol esoterig rhyngddo a'i brif ddisgybl Hui-kuo (764-805). Erys Kūkai yn ffigwr allweddol ym mywyd ysbrydol a diwyllianol Siapan heddiw.

Llyfryddiaeth fer[golygu]

  • Yoshito S. Hakeda, Kukai and His Major Works (Columbia University Press, 1984).
  • Donald Keene (gol.), Anthology of Japanese Literature (Llundain, 1956), tt. 63-7.

Dolenni allanol[golygu]