José Rizal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
José Rizal

Cenedlaetholwr a merthyr Pilipinaidd oedd José Protacio Mercado Rizal de Alejandro, Lam-co Alonso de la Rosa, y Realonda de Quintos (19 Mehefin 1861 - 30 Rhagfyr 1896). Roedd yn bolymath: bardd a llenor toreithiog, arlunydd, ac offthalmolegydd, ac roedd yn medru nifer o ieithoedd. Ymhlith ei nofelau mae Noli me Tangere a'r dilyniant, El Filibusterismo.

Roedd yn genedlaetholwr brwdfrydig a galwodd am annibyniaeth i'r Pilipinas oddi ar Ymerodraeth Sbaen. Yn ôl nifer o ysgolheigion, sbardunwyd Chwyldro'r Pilipinas gan ddienyddiad Rizal. Heddiw dethlir Diwrnod Rizal yn y Pilipinas pob blwyddyn er cof amdano.

Baner PhilippinesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Bilipiniad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.