José María Aznar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
José María Aznar

Gwleidydd o Sbaen yw José María Alfredo Aznar López (ganed 25 Chwefror 1953). Bu'n brif weinidog Sbaen o 1996 hyd 2004.

Ganed ef ym Madrid, a graddiodd yn y gyfraith yno. Daeth yn arweinydd y blaid geidwadol Partido Popular (PP) yn 1989, a phan enillodd y PP etholiad cyffredinol 1996, daeth yn brif weinidog. Collodd y PP etholiad cyffredinol 2004 i'r blaid adain-chwith PSOE dan José Luis Rodríguez Zapatero, ac ymddiswyddodd Aznar fel arweinydd y Partido Popular.

Rhai ddyddiau cyn etholiad 2004, yr oedd Aznar wedi colli llawer o'r gefnogaeth boblogaidd gan ei fod wedi camgyhuddo ETA am ymosodiadau ar drenau ym Madrid, cyn iddi hi ddod i'r amlwg mai Al Qaeda oedd yn gyfrifol amdanynt.


Baner SbaenEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaenwr neu Sbaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.