John Shalikashvili
Oddi ar Wicipedia
Cadfridog ym Myddin yr Unol Daleithiau oedd John Malchase David Shalikashvili (Georgeg: ჯონ მალხაზ დავით შალიკაშვილი; 27 Gorffennaf 1936 – 23 Gorffennaf 2011) a wasanaethodd fel Pencadlywydd y Cynghreiriaid Ewrop yn NATO o 1992 hyd 1993 a Chadeirydd Cyd-Benaethiaid y Staff yn Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau o 1993 hyd 1997. Ganwyd yn Warsaw, Gwlad Pwyl, yn fab i ffoadur o Georgia.