John James Audubon
Oddi ar Wicipedia
Naturiaethwr, adaregydd, heliwr ac arlunydd oedd John James Audubon (26 Ebrill 1785 – 27 Ionawr 1851). Arluniodd, disgrifiodd a chatalogiodd adar Gogledd America mewn modd nad oedd neb o'i flaen wedi gwneud. Fe'i ganwyd mewn trefedigaeth Ffrengig, Saint Domingue (Haiti bellach), a'i fagu yn Llydaw. Roedd yn fab llwyn a pherth i'r Is-Gapten Jean Aubudon a'i forwyn Jeanne Rabin, ill dau yn wreiddiol o Llydaw. Jean Rabin oedd ei enw gwreiddiol ond newidiodd ei enw i John James Audubon ym 1803, cyn ymfudo i'r Unol Daleithiau yn ddeunaw oed. Caiff ei gofio fel Americanwr nodweddiadol o'i gyfnod gyda'i angerdd dros ei wlad newydd, ei bersonoliaeth liwgar, a'r cyfan a gyflawnodd yn ystod ei oes.