John Glenn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
John Glenn

Gofodwr Americanaidd yw John Herschel Glenn Jr. (ganwyd 18 Gorffennaf 1921). Glenn oedd un o'r Mercury Seven, sef y grŵp cyntaf o ofodwyr a ddewiswyd gan NASA i hyfforddi am daith i'r gofod. Lansiwyd Glenn mewn capsiwl gofod (neu goden ofod), Friendship 7, ar 20 Chwefror 1962; ef oedd yr Americanwr cyntaf i gylchdroi'r Ddaear. Ar ôl ymddeol o'r rhaglen ofod Americanaidd, aeth ymlaen i fod yn wleidydd, ond dychwelodd i NASA yn 1998 i hedfan ar wennol ofod er mwyn helpu gwyddonwyr ddeall mwy am effaith hedfan yn y gofod ar hen bobl.

Cyngres yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
Howard M. Metzenbaum
Seneddwr dros Ohio
gyda Robert Taft, Jr.,
Howard M. Metzenbaum, Mike DeWine

19741999
Olynydd:
George Voinovich
Baner United StatesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Astronaut.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ofodwr neu ofodwraig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.