Jiwdo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dau berson yn ymarfer jiwdo

Crefft ymladd o Japan ydy Jiwdo. Mae'r term yn golygu "ffordd addfwyn" yn Japaneg. Crëwyd y grefft ym 1882 gan Dr Kano Jigoro. Ei nodwedd amlycaf yw'r elfen gystadleuol, lle mae cystadleuwyr naill ai'n cael eu taflu, eu rhwystro rhag symud neu eu gorfodi i ildio gan y gwrthwynebydd. Mae taro a hyrddio gan ddefnyddio dwylo a thraed yn ogystal ag arfau hunan-amddiffyn hefyd yn rhan o jiwdo, ond dim ond mewn gornestau penodol (kata). Ni chânt eu caniatau mewn cystadlaethau jiwdo neu ymarferion rhydd (randori).

Teuluoedd o dechnegau[golygu]

  • Nage waza - taflu'r gwrthwynebydd
  • Osaekomi waza - pinio'r gwrthwynebydd i lawr
  • Kansetsu waza - cloi penelin y gwrthwynebydd yn boenus i gael ymostyngiad
  • Shime waza - tagu'r gwrthwynebydd i gael ymostyngiad
Martialarts template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am grefftau ymladd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag Japan template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato