Jean Froissart
Oddi ar Wicipedia
Jean Froissart: cerflun o'r 19eg ganrif yn y Louvre.
Hanesydd o Ffrainc oedd Jean Froissart (c. 1337 – c. 1405) a oedd yn un o gronolegwyr pwysicaf Yr Oesoedd Canol yn Ffrainc. Chroniques (Croniclau) Froissart yw un o'n prif ffynonellau am hanes y Rhyfel Can Mlynedd. Roedd yn fardd dawnus yn ogystal. Daeth yn hanesydd y frenhines Philippa o Hainault, gwraig Edward III, brenin Lloegr.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Chroniques (1400)
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: