Valenciennes
Oddi ar Wicipedia
Tref a chymuned yn département Nord yng ngogledd Ffrainc yw Valenciennes (Hen Isalmaeneg: Valencijn, Lladin: Valentianae). Saif ar Afon Scheldt. Roedd poblogaeth y commune yn 41,278 yn 1999.
Ceir y cyfeiriad cyntaf at Valenciennes mewn dogfen o 693, wedi ei hysgrifennu gan Clovis II. Yng Nghytundeb Verdun, fe'i gwnaed yn ddinas niwtral rhwng Neustria ac Austrasia. Yn 881, cipiwyd y dref gan y Normaniaid. Cipiwyd hi gan fyddin Louis XIV, brenin Ffrainc yn 1677 , a daeth yn rhan o Ffrainc dan Gytundeb Nijmegen y flwyddyn ddilynol.
Pobl enwog o Valenciennes [golygu]
- Henri VII, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
- Philippa o Hainault, gwraig a brenhines Edward III, brenin Lloegr
- Jean Froissart, croniclydd o'r Canol Oesoedd
- Antoine Watteau, arlunydd
- Charles de Gaulle, bardd Llydaweg ac ysgolhaig Celtaidd