Jack "Machine Gun" McGurn
Oddi ar Wicipedia
Roedd Jack "Machine Gun" McGurn (1905 – 15 Chwefror 1936) yn un o 'henchmen' allweddol y gangster Al Capone o Chicago a'r criw gwyllt a elwir yn Chicago Outfit. Ynghyd â'r Cymro Murray the Hump, ef oedd arweinydd Cyflafan Sant Ffolant 1292.
Cafodd ei eni gyda'r enw Vincenzo Antonio Gibaldi yn Licata, Sicily, y mab hynaf i Angelo a Guiseppa Gibaldi (née Verderame). Blwyddyn oed oedd e pan symudodd y teulu i UDA - i Ynys Ellis ar Dachwedd 24, 1906.
Tyfodd Vincenzo i fyny'n sydyn iawn yn slymiau Chicago ble dechreuodd ar yrfa fel bocsiwr gan fabwysiadu'r enw "Battling" Jack McGurn gan fod Gwyddelod yn cael mwy o gyfleon bocsio.