Jîns

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Jîns glas

Trowsus a wneir yn draddodiadol o ddenim, ond gall hefyd cael ei wneud o gotwm, melfaréd, neu nifer o ffabrigau eraill, yw jîns. Yn wreiddiol roeddent yn ddillad gweithio, ond daethent yn boblogaidd ymysg arddegwyr o'r 1950au ymlaen. Mae brandiau enwog yn cynnwys Levi's a Wrangler. Heddiw mae jîns yn ffurf boblogaidd iawn o wisg anffurfiol ar draws y byd.

Yn ei awdl arobryn (Cadair Eisteddfod Bro Delyn, 1991) dywedodd y Prifardd Robin Llwyd ab Owain:

"Wyt gyffro Giro mewn jins

Sy'n diosg..."

Fel arfer, mae'r enw lluosog yn diweddu gydag 'au' yn y Gymraeg, ond 'jins' ddywedir ar lafar, a dyma a ddefnyddiwyd yn yr awdl. Roedd defnyddio gair fel 'jins' mewn awdl cadeiriol "yn dorri tir newydd" yn ôl y Beirniad Eirian Davies.

Signorina in viola.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddillad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato