Ivy League

Oddi ar Wicipedia
Ivy League
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas athletaidd golegol Edit this on Wikidata
Rhan oNCAA Division I Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1954 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPrifysgol Columbia, Prifysgol Brown, Prifysgol Princeton, Prifysgol Cornell, Coleg Dartmouth, Prifysgol Harvard, Prifysgol Pennsylvania, Prifysgol Yale Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ivyleaguesports.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lleoliadau prifysgolion yr Ivy League

Cymdeithas athletaidd golegol sy'n cynnwys timau chwaraeon o wyth prifysgol breifat yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau yw'r Ivy League ("Cynghrair Eiddew"). Mae'r enw hefyd yn cael ei ddefnyddio yn gyffredin i gyfeirio at yr wyth sefydliad fel grŵp y tu hwnt i gyd-destun chwaraeon. Dyma'r wyth prifysgol: Prifysgol Brown, Prifysgol Columbia, Prifysgol Cornell, Coleg Dartmouth, Prifysgol Harvard, Prifysgol Pennsylvania, Prifysgol Princeton a Phrifysgol Yale. Yn aml, mae gan y term "Ivy League" arwyddocâd o ragoriaeth academaidd ac elitiaeth gymdeithasol.

Defnyddiwyd y term "Ivy League" yn answyddogol yn y 1930au, ond defnyddiwyd yn swyddogol am y tro cyntaf ym 1945 ar gyfer cystadleuaeth bêl-droed Americanaidd rhwng yr wyth prifysgol. Ffurfiwyd y gynghrair yn ei ffurf bresennol, sy'n cynnwys pob math o chwaraeon rhyng-golegol, ym 1954.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]