Isabella Colbran

Oddi ar Wicipedia
Isabella Colbran
Ganwyd2 Chwefror 1785 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Bu farw7 Hydref 1845 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Castenaso, Bologna Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sbaen Sbaen
Galwedigaethcanwr opera, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano coloratwra, soprano Edit this on Wikidata
TadGiovanni Colbran Edit this on Wikidata
PriodGioachino Rossini Edit this on Wikidata

Cantores opera Sbaenaidd oedd Isabella Angela Colbran (2 Chwefror 1785 [1] - 7 Hydref 1845) a adwaenid yn ei mamwlad fel Isabel Colbrandt. Mae llawer o ffynonellau yn ei nodi fel soprano coloratwra dramatig ond mae rhai yn credu ei bod yn mezzo-soprano gydag estyniad uchel, soprano sfogato. Cydweithiodd â'r cyfansoddwr opera Gioachino Rossini i greu nifer o rolau sy'n aros yn y repertoire hyd heddiw. Priododd y ddau ar 22 Mawrth 1822. Hi oedd cyfansoddwr pedwar casgliad o ganeuon.[2]

Colbran yn Napoli[golygu | golygu cod]

Ganwyd Colbran, merch cerddor llys Brenin Sbaen, Gianni Colbran a Teresa Ortola ei wraig, ym Madrid.[3] Dechreuodd ei hastudiaethau cerddorol yn chwech oed gyda'r cyfansoddwr, Francisco Pareja, y castrato Carlo Martinelli, a'r canwr a chyfansoddwr enwog, Girolamo Crescentini ym Mharis.[4]

Erbyn iddi gyrraedd ugain oed roedd wedi ennill enwogrwydd ledled Ewrop am ei llais. Symudodd i Napoli, canolbwynt cerddoriaeth Ewropeaidd yn ystod y ddeunawfed a'r 19g. Roedd y Teatro di San Carlo, wedi dod yn gartref i gantorion enwog fel y castrato Farinelli ac wedi dod yn gyrchfan i gantorion talentog.

Daeth Colbran yn prima donna cwmni Teatro di San Carlo. Roedd yn cael ei hedmygu gan Brenin Napoli yn ogystal â chyhoedd oedd yn ei addoli. Ymhen amser daeth yn feistres i impresario'r theatr, Domenico Barbaia. Roedd Barbaia hefyd yn rheoli neuaddau hapchwarae a datblygodd Colbran hoffter o gamblo yn ei gwmni.[5]

I wneud y gorau o dalentau Colbran arwyddodd Barbaia Gioachino Rossini i gontract saith mlynedd fel cyfansoddwr operâu i'r cwmni. Ar ôl iddo gyrraedd Napoli ym 1815 cyfansoddodd Rossini rôl deitl Elisabetta, regina d'Inghilterra ( Elizabeth, Brenhines Lloegr ) yn arbennig ar ei chyfer.[6] Ei opera Neapolitan nesaf oedd Otello, ossia il Moro di Venezia lle canodd Colbran rôl Desdemona. Profodd yr opera hon i fod yn hynod boblogaidd a daeth o hyd i Colbran ar anterth ei phwerau. Arweiniodd ei phoblogrwydd at alw mawr am ei pherfformiadau. Er i'w llais ddechrau dangos arwyddion o straen yn fuan, parhaodd Colbran i gael gyrfa ffrwythlon, gan greu rolau Armida (Armida), Elcia (Mosè in Egitto), Zoraide (Ricciardo e Zoraide), Ermione (Ermione), Elena (La donna del lago), Anna (Maometto II), a Zelmira (Zelmira), pob un wedi'i ysgrifennu gan Rossini ar gyfer theatrau Napoli.[7]

Colbran yn Bologna[golygu | golygu cod]

Roedd perthynas rhamantus yn cyd-fynd â'r cydweithrediad artistig rhwng Colbran a Rossini, a ddechreuodd ym 1815. Symudodd Colbran gyda Rossini, a oedd saith mlynedd yn iau na hi, i Bologna ym 1822, lle priodon nhw. Fe darodd marwolaeth ei thad Colbran yn galed. Comisiynodd Rossini gerflun ar gyfer mawsolëwm y teulu yn darlunio dynes yn wylo wrth droed bedd ei thad.[5]

Ymwelodd y cwpl â Fienna ac yn ddiweddarach Fenis, lle cyfansoddodd Rossini Semiramide. Creodd Colbran rôl y teitl, ac er bod yr opera ei hun wedi bod yn hynod lwyddiannus ac wedi'i chynllunio'n benodol i guddio methiannau ei llais, siomodd y cyhoedd serch hynny. Cododd ffi uchel am ymweliad â Llundain ym 1824 am berfformiad yn y rôl, ond derbyniwyd ymateb beirniadol gwael. Ar ôl ymddangosiad trychinebus fel Zelmira ym 1824, ymddeolodd o'r llwyfan yn 42 mlwydd oed.[8]

Ymwahanodd Colbran a Rossini ym 1837 wrth i’r cyfansoddwr ddechrau perthynas ddifrifol â'r model artistiaid Olympe Pélissier ym Mharis. Dirywiodd iechyd Colbran a pharhaodd i fyw ar ystâd ei diweddar dad yn Castenaso ger Bologna. Wrth i'w harferion gamblo ddod yn fwy difrifol, fe werthodd rannau o'r ystâd ond parhaodd Rossini i anfon cefnogaeth.[5]

Bu farw Colbran ym 1845 yn 60 oed. Claddwyd hi ger Bologna ochr yn ochr â'i rhieni hi a rhieni Rossini. Priododd Rossini â Pélissier y flwyddyn ganlynol. Ar hyd ei oes, credodd Rossini mai Colbran oedd dehonglydd gorau ei gerddoriaeth.[9]

Rolau a grëwyd[golygu | golygu cod]

  • Volunnia yn Coriolano gan Nicolini (Rhagfyr 26, 1808, Teatro alla Scala Milan)
  • Ifigenia yn Ifigenia yn Aulide gan Federici (28 Ionawr, 1809, Teatro alla Scala, Milan)
  • Palmide yn I Gauri gan Mellara (22 Chwefror 1810, Teatro La Fenice, Fenis)
  • Pietà celeste yn Il pegno di pace gan Caffi (11 Mawrth 1810, Teatro La Fenice, Fenis)
  • Soprano yn L'oracolo di Delfo gan Raimondi (15 Awst 1811, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Beroe yn Nitteti gan Pavesi (26 Rhagfyr 1811, Teatro Regio, Torino)
  • Lidia yn Lauso e Lidia gan Farinelli (31 Ionawr 1813, Teatro Regio, Torino)
  • Rôl y teitl yn Nefte gan Fioravanti (18 Ebrill 1813, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Zetulbè yn Il califfo di Bagdad gan García (30 Medi 1813, Teatro del Fondo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn Medea in Corinto gan Mayr (28 Tachwedd 1813, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Diana yn Diana ed Endimione gan García (9 Chwefror 1814, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn Partenope gan Farinelli (15 Awst 1814, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Caritea yn Donna Caritea, regina di Spagna gan Farinelli (16 Medi 1814, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn La donzella di Raab gan García (4 Tachwedd 1814, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Soprano yn Arianna yn Nasso gan Mayr (19 Chwefror 1815, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn Elisabetta, regina d'Inghilterra gan Rossini (4 Hydref 1815, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Soprano yn Le nozze di Teti e di Peleo gan Rossini (24 Ebrill 1816, Teatro del Fondo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn Gabriella di Vergy gan Carafa (3 Gorffennaf 1816, Teatro del Fondo, Napoli)
  • Desdemona yn Otello gan Rossini (4 Rhagfyr 1816, Teatro del Fondo, Napoli)
  • Virginia yn Paolo e Virginia gan Guglielmo (2 Ionawr 1817, Teatro dei Fiorentini, Napoli)
  • Partenope yn Il sogno di Partenope gan Mayr (12 Ionawr 1817, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Zemira yn Mennone e Zemira gan Mayr (22 Mawrth 1817, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn Ifigenia in Tauride gan Carafa (19 Mehefin 1817, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn Armida gan Rossini (11 Tachwedd 1817, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn Boadicea gan Morlacchi (13 Ionawr 1818, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Elcia yn Mosè in Egitto gan Rossini (5 Mawrth 1818, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Fecenia yn Ebuzio gan Generali (9 Medi 1818, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Zoraide yn Ricciardo e Zoraide gan Rossini (3 Rhagfyr 1818, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn Ermione gan Rossini (27 Mawrth 1819, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Circe yn Ulisse nell'isola di Circe gan Perrino (23 Mehefin 1819, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Jole yn L'apoteosi d'Ercole gan Mercadante (19 Awst 1819, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Elena yn La donna del lago gan Rossini (24 Hydref 1819, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Anna Erisso yn Maometto secondo gan Rossini (3 Rhagfyr 1820, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn Zelmira gan Rossini (16 Chwefror 1822, Teatro San Carlo, Napoli)
  • Rôl y teitl yn Semiramide gan Rossini (3 Chwefror 1823, Teatro La Fenice, Fenis)

Cyfansoddiadau[golygu | golygu cod]

Cyfansoddodd Colbran bedwar casgliad o ganeuon; cawsant eu cyflwyno i Ymerodres Rwsia; i'w hathro, Crescenti; i Frenhines Sbaen; ac i'r Tywysog Eugène de Beauharnais.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bacon, Richard Mackenzie (1824). "VI. Public Establishments for Music in London - The King's Theatre - Signora Colbran Rossini". The Quarterly Musical Magazine and Review (London: Baldwin, Craddock, and Joy) VI: 52ff. https://books.google.com/books?id=aLcPAAAAYAAJ&pg=PA52&lpg=PA52.
  2. "COLBRAN, Isabella Angela yn "Dizionario Biografico"". www.treccani.it (yn Eidaleg). Cyrchwyd 2020-10-03.
  3. "Colbran, Isabella (1785-1845)". androom.home.xs4all.nl. Cyrchwyd 2020-10-03.
  4. "Isabella Colbran — A Modern Reveal: Songs and Stories of Women Composers". A Modern Reveal. Cyrchwyd 2020-10-03.
  5. 5.0 5.1 5.2 "The Gambling Mezzo Soprano - Isabella Colbran", Barbara, 11 Chwefror 2010
  6. "How Rossini's Wife Inspired His Great Work". Interlude. 2018-11-12. Cyrchwyd 2020-10-03.
  7. "Colbran, Isabella (1785-1845) | Encyclopedia.com". www.encyclopedia.com. Cyrchwyd 2020-10-03.
  8. "Colbran, Isabella [Isabel] (Angela)" gan Elizabeth Forbes, Grove Music Online
  9. "Gioachino Rossini and Isabella Colbran". Classic FM. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-18. Cyrchwyd 2020-10-03.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • The Oxford Dictionary of Opera, gan John Warrack ac Ewan West (1992), 782 tud, ISBN 0-19-869164-5
  • Women Composers: A Heritage of Song, p. 50, gol. Carol Kimball (2004), Hal Leonard.