Isaac Bashevis Singer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Isaac Bashevis Singer.

Awdur Americanaidd, yn enedigol o Wlad Pwyl, yn ysgrifennu yn yr iaith Iddew-Almaeneg oedd Isaac Bashevis Singer (21 Tachwedd 1902 - 24 Gorffennaf, 1991). Roedd yn un o ffigyrau amlycaf llenyddiaeth Iddew-Almaeneg.

Ganed ef yn Leoncin, pentref gerllaw Warsaw a breswylid yn bennaf gan Iddewon. Daeth ei frawd, Israel Joshua Singer, hefyd yn awdur adnabyddus. Ei nofel gyntaf oedd Satan yn Goray, sy'n rhoi hanes y digwyddiadau ym mhentref Goraj yn ystod yr erlid ar yr Iddewon ym 1648. Symudodd i'r Unol Daleithiau ym 1935. Enillodd Wobr Llenyddiaeth Nobel ym 1978.