Iechyd y blaned

Oddi ar Wicipedia
Iechyd y blaned
Enghraifft o'r canlynolcysyniad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2015 Edit this on Wikidata
SylfaenyddThe Lancet, Sefydliad Rockefeller Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.planetaryhealthalliance.org/planetary-health, https://alliancesanteplanetaire.org/ Edit this on Wikidata

Mae iechyd y blaned yn cyfeirio at "iechyd gwareiddiad dynol a chyflwr y systemau naturiol y mae'n dibynnu arnynt". Yn 2015, lansiodd Sefydliad Rockefeller a The Lancet y cysyniad fel Sefydliad Rockefeller - Comisiwn Lancet ar Iechyd y Blaned.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r syniad o iechyd y blaned wedi bodoli ers peth amser. Ym 1993 ysgrifennodd y meddyg Norwyaidd Per Fugelli: “Mae claf y Ddaear yn sâl. Gall tarfu amgylcheddol byd-eang gael canlyniadau difrifol i iechyd pobl. Mae'n bryd i feddygon roi diagnosis byd-eang a chynghori ar driniaeth."[2]

Dau-ddeg-un mlynedd yn ddiweddarach, galwodd sylwebaeth yn rhifyn Mawrth 2014 o'r cyfnodolyn meddygol The Lancet am greu mudiad ar gyfer iechyd y blaned i drawsnewid maes iechyd y cyhoedd, sydd yn draddodiadol wedi canolbwyntio ar iechyd poblogaethau dynol heb o reidrwydd ystyried yr hyn sydd o'u hamgylch a'r ecosystemau naturiol.[3] Roedd y cynnig yn cydnabod y bygythiadau, a oedd yn dod i'r amlwg, i systemau naturiol a dynol sy'n grud i ddynoliaeth. 

Yn 2015, lansiodd Sefydliad Rockefeller a The Lancet y cysyniad fel Sefydliad Rockefeller - Comisiwn Lancet ar Iechyd y Blaned.[1]

Egwyddorion[golygu | golygu cod]

Gosododd adroddiad Comisiwn Lancet yr egwyddorion trosfwaol sy'n llywio'r syniad o iechyd y blaned. Un yw bod iechyd dynol yn dibynnu ar "systemau naturiol ffyniannus a stiwardiaeth ddoeth o'r systemau naturiol hynny". Mae gweithgareddau dynol, megis cynhyrchu ynni a chynhyrchu bwyd, wedi arwain at effeithiau byd-eang sylweddol gan annog gwyddonwyr i gyfeirio at y cyfnod modern fel yr anthroposen

Cynigiodd grŵp o wyddonwyr amgylcheddol a Daear, dan arweiniad Johan Rockström o Ganolfan Gwydnwch Stockholm, y cysyniad o naw ffin planedol y gall dynolryw barhau i ddatblygu a ffynnu oddi mewn iddynt am genedlaethau i ddod.[4] Yn ôl diweddariad 2015, rhagorwyd eisoes ar bedair o’r ffiniau planedol – newid hinsawdd, cyfanrwydd y biosffer, llif biogeocemegol, a newid system tir.[5]

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod angen cymryd camau brys a thrawsnewidiol i amddiffyn cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Un maes pwysig yr oedd angen rhoi sylw iddo ar unwaith oedd y system o lywodraethu a threfnu gwybodaeth ddynol, a ystyriwyd yn annigonol i fynd i'r afael â'r holl fygythiadau i iechyd y blaned.

Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion cyffredinol. Un oedd gwella llywodraethu er mwyn helpu i integreiddio polisïau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ac ar gyfer creu, syntheseiddio a chymhwyso gwybodaeth ryngddisgyblaethol. Galwodd yr awduron am atebion yn seiliedig ar ailddiffinio ffyniant i ganolbwyntio ar wella ansawdd bywyd a darparu gwell iechyd i bawb, ynghyd â pharch at gyfanrwydd systemau naturiol. 

Cymhariaeth â meysydd eraill[golygu | golygu cod]

Ystyrir iechyd y blaned yn ymateb i feysydd a phatrymau eraill sy'n bodoli, megis iechyd y cyhoedd, iechyd yr amgylchedd, ecoiechyd, Un Iechyd ac iechyd rhyngwladol.

Er y gall fod diffiniadau cystadleuol o iechyd byd-eang,[6] fe'i diffinnir yn fras fel iechyd poblogaethau mewn cyd-destun byd-eang, ymateb i symudiad trawsffiniol ysgogwyr iechyd yn ogystal â risgiau, a gwelliant dros gysyniad hŷn iechyd rhyngwladol gyda'i bwyslais newydd ar sicrhau tegwch mewn iechyd, ymhlith pawb.[7] Ysgrifennodd prif olygydd The Lancet Richard Horton mewn rhifyn arbennig yn 2014 o The Economist ar iechyd y blaned, nad oedd iechyd byd-eang bellach yn gallu cwrdd yn wirioneddol â'r gofynion y mae cymdeithasau'n eu hwynebu, gan ei fod yn dal yn rhy gyfyng i esbonio a goleuo rhywfaint o'r heriau." Nid yw iechyd byd-eang yn rhoi ystyriaeth lawn i'r sylfaen naturiol hwnnw y mae bodau dynol yn byw arni - sef y blaned ei hun. Nid yw ychwaith yn ystyried grym a breuder gwareiddiadau dynol.”[8]

Cyhoeddodd Judith Rodin, llywydd Sefydliad Rockefeller, iechyd y blaned fel disgyblaeth newydd ym maes iechyd byd-eang.[9]

Beirniadaeth[golygu | golygu cod]

Mae beirniaid wedi lleisio pryderon ynghylch gwerth ychwanegol iechyd y blaned gan y dywedir bod y cysyniad yn aml yn aneglur.[10] Mae ysgolheigion eraill yn credu bod eiriolaeth iechyd y blaned yn gyfystyr â gor-ehangu iechyd.[11]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Whitmee, Sarah (2015-11-14). "Safeguarding human health in the Anthropocene epoch: report of The Rockefeller Foundation–Lancet Commission on planetary health". The Lancet 386 (10007): 1973–2028. doi:10.1016/S0140-6736(15)60901-1. PMID 26188744. http://www.thelancet.com/journals/lancet/article/PIIS0140-6736(15)60901-1/fulltext. Adalwyd 2016-10-05.
  2. Casassus, Barbara (2017). "Per Fugelli". The Lancet 390 (10107): 2032. doi:10.1016/S0140-6736(17)32737-X.
  3. Horton, Richard; Beaglehole, Robert; Bonita, Ruth; Raeburn, John; McKee, Martin (2014-03-06). "From public to planetary health: a manifesto". The Lancet 383 (9920): 847. doi:10.1016/s0140-6736(14)60409-8. PMID 24607088. http://www.thelancet.com/journals/lancet/article/PIIS0140-6736(14)60409-8/fulltext. Adalwyd 2016-10-05.
  4. Rockström, Johan (2009-09-04). "A safe operating space for humanity". Nature 461 (7263): 472–475. Bibcode 2009Natur.461..472R. doi:10.1038/461472a. PMID 19779433.
  5. Steffen, W. (2015-02-13). "Planetary boundaries: Guiding human development on a changing planet". Science 347 (6223): 1259855. doi:10.1126/science.1259855. PMID 25592418.
  6. Koplan, Jeffrey P; Bond, T Christopher; Merson, Michael H; Reddy, K Srinath; Rodriguez, Mario Henry; Sewankambo, Nelson K; Wasserheit, Judith N (2009). "Towards a common definition of global health". The Lancet 373 (9679): 1993–1995. doi:10.1016/s0140-6736(09)60332-9. PMID 19493564.
  7. Brown, Theodore M.; Cueto, Marcos; Fee, Elizabeth (2006-01-01). "The World Health Organization and the Transition From "International" to "Global" Public Health". American Journal of Public Health 96 (1): 62–72. doi:10.2105/AJPH.2004.050831. ISSN 0090-0036. PMC 1470434. PMID 16322464. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1470434.
  8. "Planetary Health - Economist Intelligence Unit" (PDF). The Economist. 25 June 2014. t. 28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 September 2019. Cyrchwyd 2016-10-06.
  9. Rodin, Judith (2015-07-16). Planetary Health: A New Discipline in Global Health. https://www.rockefellerfoundation.org/blog/planetary-health-a-new-discipline-in-global-health/. Adalwyd 2016-10-06.
  10. "Horton, R. (2016). Offline: Planetary health—Gains and challenges. The Lancet, 388(10059), 2462". thelancet.com. Cyrchwyd 2023-04-12.
  11. "Roth, S., & Valentinov, V. (2023). Health beyond medicine. A planetary theory extension. Sociology of Health & Illness, 45(2), 331-345". derroth.com. Cyrchwyd 2023-04-12.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]