Hen Bexley a Sidcup (etholaeth seneddol)
Oddi ar Wicipedia
| Etholaeth Bwrdeistrefol | |
|---|---|
| Hen Bexley a Sidcup yn siroedd Llundain Fwyaf | |
| Creu: | 1983 |
| Math: | Tŷ'r Cyffredin |
| AS: | James Brokenshire |
| Plaid: | Ceidwadol |
| Etholaeth SE: | Llundain |
Etholaeth seneddol yn Llundain ydy Hen Bexley a Sidcup . Dychwela un AS i Dŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig sef yr ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau. O 2001, Aelod Seneddol yr etholaeth oedd Derek Conway a etholwyd fel ymgeisydd ar ran y Blaid Geidwadol. Ei ragflaenydd oedd Syr Edward Heath, a fu'n AS yno ers 1950. Ef hefyd oedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig o 1970 tan 1974. Cyhoeddodd ei fod yn ymddeol ar ddiwedd y cyfnod seneddol 1997-2001. Fodd bynnag, ar 29 Ionawr, 2008 cipiodd y Blaid Geidwadol chwip Derek Conway yn sgil honiadau o gamddefnydd ariannol. Mae ef bellach yn AS Annibynnol.
Yr Aelod Seneddol presennol ydy James Brokenshire (Ceidwadol).
Aelodau Seneddol [golygu]
- 1983 – 2001: Edward Heath (Ceidwadol)
- 2001 – 2010: Derek Conway (Ceidwadol, 2001-2008 / Ceidwadol Annibynnol, 2008-2010)
- 2010 – presennol: James Brokenshire (Ceidwadol)