Helygen Wen
Oddi ar Wicipedia
| Helygen Wen | |
|---|---|
| Prif nodwedd y dail yw eu bont yn oleuach oddi tanynt nac uwch ben. | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
| Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
| Ddim wedi'i restru: | Rosids |
| Urdd: | Malpighiales |
| Teulu: | Salicaceae |
| Genws: | Salix |
| Rhywogaeth: | S. alba |
| Enw deuenwol | |
| Salix alba L. |
|
Mae'r Helygen Wen yn perthyn i deulu o goed a elwir yn Helyg, sy'n goed colldail (Lladin: Salix alba; Saesneg: White Willow) sy'n tyfu i fod tua 10 m o uchder. Mae'n tyfu yn Ewrop a gorllewin a chanol Asia.[1]
Arian yw lliw'r rhisgl ac mae'r dail yn olau hefyd: o siap pigfain ac yn sidanaidd pan fyddant yn ifanc. Mae'r canghennau'n troi i fyny a'r boncyff yn plygu'n aml. Blodeuai rhwng Ebrill a Mai. Tyf arni gynffonau ŵyn bach (neu wyddau bach) sfferaidd 4–5 cm o hyd. Fe all dyfu hyd at 20 medr o daldra.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Meikle, R. D. (1984). Willows and Poplars of Great Britain and Ireland. BSBI Cyfrol Rhif 4. ISBN 0-901158-07-0.