Hanner Marathon Caerdydd

Oddi ar Wicipedia

Cynhelir Hanner Marathon Caerdydd (Marathon Caerdydd ynghynt) yn ystod mis Hydref bob blwyddyn, yng Nghaerdydd. Sefydlwyd y digwyddiad yn 2003,[1] law yn llaw â marathon i gychwyn, gan yr elusen Barnardo’s i blant. Mae Prifysgol Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Llywodraeth Cymru ac Athletau Cymru mewn partneriaeth â'r digwyddiad. Bellach, dyma un o'r rasys ffordd mwyaf yn y DU.

Mae'r cwrs at ei gilydd wedi bod yn un gwastad o hyd, sy'n ei wneud yn ras gyntaf delfrydol i redwyr a rhedwyr proffesiynol (gall rhedwyr elitaidd gofrestru ar gyfer y ras yn rhad ac am ddim). Gall rhedwyr fanteisio ar rai o atyniadau Caerdydd wrth fynd o gwmpas y llwybr, megis Castell Caerdydd, Bae Caerdydd a Pharc Bute. 

Yn 2009, yn ystod ei phen-blwydd yn 10 oed, denodd y ras 11,000 o gystadleuwyr a gwnaethant godi arian ar gyfer dros 175 o elusennau. Mae'r ras wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd ac mae bellach yn denu rhedwyr o'r DU a thramor. Dyma ail hanner marathon mwyaf y DU, a'r ras ffordd fwyaf yng Nghymru. Yn 2016, gwnaeth 22,000 o bobl redeg y cwrs. Erbyn hyn, caiff dros £2.4 miliwn ei godi ar gyfer 800 o elusennau ac achosion da bob blwyddyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Race history". Cardiff Half Marathon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-15. Cyrchwyd 2011-12-21. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)