Haile Selassie
Ymerawdwr Ethiopia o 1930 hyd 1974 oedd Haile Selassie (Ge'ez: ኃይለ፡ ሥላሴ, "Pŵer y Drindod"[1]), enw genedigol Tafari Makonnen (23 Gorffennaf, 1892 - 27 Awst, 1975).
Pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr Iyasu yn 1916, daeth ei fodryb Zewditu yn ymerodres, ac enwyd Tafari Makonnen yn aer i'r goron ac yn llywodraethwr y deyrnas.
Pan ddaeth yn ymerawdwr yn 1930 ar farwolaeth Zewditu, cymerodd yr enw Haile Selassie, sy'n golygu "Grym y Drindod". Yn ystod ei deyrnasiad o 45 mlynedd, gwnaeth Haile Selassie lawer i geisio moderneiddio Ethiopia, ac enillodd boblogrwydd mawr yn Affrica a thu hwnt. Daeth i amlygrwydd byd-eang yn 1936 trwy ei araith i Gynghrair y Cenhedloedd yn condemnio defnydd yr Eidal o arfau cemegol yn eu hymdrech i oresgyn Ethiopia.
Aeth Haile Selassie yn fwy ceidwadol wrth iddo heneddio, a theimlai carfan yn Ethiopia nad oedd y wlad yn cael ei moderneiddio'n ddigon cyflym. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a diorseddwyd ef ar 12 Medi 1974. Treuliodd ei fisoedd olaf yn garcharor yn y palas ymerodrol.
Cymer y mudiad Rastaffaraidd, a sylfaenwyd yn Jamaica yn y 1930au cynnar, ei enw oddi wrtho ef, "Ras ("tywysog) Tafari". Ystyria'r mudiad fod Haile Selassie yn ymgorfforiad o Iesu Grist.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gates, Henry Louis a Appiah, Anthony. Africana: The Encyclopedia of the African and African American Experience. 1999, tud 902.