Plasdy Penlle'r-gaer

Oddi ar Wicipedia
Plasdy Penlle'r-gaer
Penlle'r-gaer yn 1852
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstad Penlle'r gaer Edit this on Wikidata
LleoliadPenlle'r-gaer Edit this on Wikidata
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.67°N 4.01°W Edit this on Wikidata
Map

Roedd Plasdy Penlle'r-gaer ar ystâd o'r un enw ar bwys pentref bychan Penlle'r-gaer, ar gyrion dinas Abertawe. Yn y 1960au dymchwelwyd y plasdy, ond mae hen dir yr ystâd yn dal yno, a gellir gweld llynnoedd, tai tegeirianau, yr arsyllfa seryddol, a'r rhaeadr a'r gerddi wedi'u tirlunio. Dyma oedd cartref teulu John Dillwyn Llewelyn rhwng 1817-1936. Roedd gan y teulu ddiddordebau eang mewn seryddiaeth, botaneg, celf a ffotograffiaeth.[1] Cymerwyd ffotograff cyntaf o'r lloer gan John Dillwyn o'r arsyllfa seryddol.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu Haile Selassie, Ymerawdwr Ethiopia yn byw yno, pan oedd wedi'i alltudio.

Yn 2011 cyhoeddwyd fod £2.3 miliwn wedi'i glustnodi gan ronfa Nawdd Treftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn i Ymddiriedolaeth Penllergare, adfer y llecyn sydd wedi ei esgeuluso dros y blynyddoedd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]