Gwynt
Oddi ar Wicipedia
Yn nhermau syml, gwynt yw masau aer sy'n symud trwy'r atmosffer. Mae meteorolegwyr yn diffinio gwynt fel aer sy'n symud yn llorweddol a gelwir symudiad aer fertigol yn gerrynt.
Achos gwynt[golygu]
Achosir gwynt gan wahanol wasgeddau aer yn ardaloedd gwahanol. Achosir yr anghydbwysedd yng ngwasgeddau gan amrywiad yng nghryfder pelydredd yr haul dros wahanol ardaloedd oherwydd ffactorau megis gorchudd cwmwl, lleithder aer, agwedd a lledred.