Egni gwynt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Llif yr aer yn yr atmosffêr yw egni gwynt, fel arfer o ganlyniad i'r tywydd neu gyflwr daearegol. Mae rhai yn ei ystyried fel egni'r haul am fod y gwynt yn cael ei achosi gan dymheredd cyfnewidiol yn yr atmosffer o ganlyniad i wres yr haul. Caiff ei ddefnyddio fel ffynhonnell egni cynaliadwy.

Dydy'r haul ddim yn disgleirio cyn gryfed ym mhobman: mae'n newid fel y mae'r dydd yn troi yn nos a'r nos yn troi'n ddydd, mae'r haul yn disgleirio'n gryf drwy'r flwyddyn ger y cyhydedd, ond nid felly ger Pegwn y De a Phegwn y Gogledd lle mae'n oer a'r nos yn para am hanner blwyddyn. Ac felly mae'r aer poeth yn gwasgaru ac mae'r gwasgedd aer yn wahanol ym mhobman. Gwahanol fathau o dwrbinau gwynt.

Ond ar wahân i'r gwahaniaeth mewn tymheredd yn fyd-ean, ceir hefyd gwahaniaeth tymheredd lleol. Er enghraifft mae'r tir yn poethi yn gynt na'r môr yn ystod y dydd ac felly mae'r gwynt yn chwythu o'r môr i'r tir. Yn ystod y nos, mae'r tir yn oeri yn gynt na'r môr ac felly mae'r gwynt yn chwythu o'r tir i'r môr.

Mae dyn yn defnyddio egni gwynt ers ganrifoedd: er mwyn teithio ar longau hwylio neu mewn balŵn neu er mwyn ei helpu gyda'i waith, er enghraifft melinau gwynt i bwmpio dŵr neu i falu blawd.

Melin wynt draddodiadol yn agos i Pitstone, Swydd Buckingham, Lloegr.
Melin wynt modern yn Nord-Pas-de-Calais, Ffrainc.
Melin wynt ger Castell Newydd Emlyn, Cymru.

Ers rhai blynyddoedd defnyddir egni gwynt i gynhyrchu trydan hefyd. I wneud hynny, mae angen tyrbin gwynt. Fel arfer mae llawer o dyrbinau gwynt yn ffermydd gwynt, llawer ohonyn nhw yn y môr neu ar yr arfordir.