Gwerddon (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
Gwerddon
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Hafan Gwerddon; Gorffennaf 2013.

Cylchgrawn Cymraeg academaidd yw Gwerddon. Fe'i cyhoeddir ar y we o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Cyhoeddwyd y rhifyn gyntaf yn Ebrill 2007.

Cyllidir a gweinyddir Gwerddon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (a chan ragflaenydd y Coleg, y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, cyn Ebrill 2011).

Amcan Gwerddon yw "cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a'r Dyniaethau."[1] Un o'r rhesymau dros ei gyhoeddi oedd yr angen i weithio yn erbyn tuedd mewn cylchoedd academaidd Cymreig i gyhoeddi gwaith yn Saesneg yn hytrach nag yn y Gymraeg.[2]

Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod eang o feysydd a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’ (REF) 2014 ac yn gweithredu cyfundrefn arfarnu annibynnol.

Golygydd cyntaf Gwerddon oedd yr Athro Ioan Williams. Fe'i olynwyd ym mis Medi 2014 gan Dr Anwen Jones, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Yr isolygydd yw Dr Hywel Griffiths. Ceir hefyd Fwrdd Golygyddol o 16 aelod o wahanol sefydliadau Addysg Uwch Cymru, dan gadeiryddiaeth yr Athro Eleri Pryse.

Gellir darllen a lawrlwytho rhifynnau Gwerddon ar ffurf PDF yn rhad ac am ddim drwy fynd i'r wefan, www.gwerddon.cymru. Gall unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu erthygl wneud hynny drwy fynd i'r wefan a dilyn y canllawiau perthnasol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwerddon; adalwyd 1 Chwefror, 2016.
  2. 'Golygyddol', Gwerddon, rhifyn1 Archifwyd 2021-09-23 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 1 Chwefror, 2016.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]