Gwareiddiad Minoaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffresco o Cnossos, yn dangos tair merch

Y Gwareiddiad Minoaidd yw'r enw a ddefnyddir am y gwareiddiad cynnar a ddatblygodd ar ynys Creta yn ystod Oes yr Efydd. Blodeuodd o tua'r 27ain ganrif CC hyd tua 1450 CC, pan olynwyd ef gan y Gwareiddiad Myceneaidd, efallai o ganlyniad i goncwest o dir mawr Gwlad Groeg.

Rhoddwyd yr enw "Minoaidd" iddo gan yr archaelegydd Prydeinig Syr Arthur Evans, ar ol y Brenin Minos ym mytholeg Groeg. Bu ef yn cloddio yn Cnossos, y mwyaf adnabyddus o'r safleoedd Minoaidd, lle roedd palasau cymhleth gydag addurniadau tarawiadol. Safleoedd eraill tebyg yw Phaistos, Malia, a Kato Zakros.

Creta yn y cyfnod Minoaidd
Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato