Cnossos
Oddi ar Wicipedia
Rhan o ail-greadigaeth Arthur Evans yn Knossos; y fynedfa ogleddol.
Safle archaeolegol ar ynys Creta yng Ngwlad Groeg yw Cnossos neu Knossos (Groeg: Κνωσός). Hwn yw'r safle bwysicaf o'r Gwareiddiad Minoaidd o Oes yr Efydd. Saif gerllaw dinas Heraklion.
Darganfuwyd gweddillion Cnossos yn 1878 gan Minos Kalokairinos, hynafiaethydd Cretaidd. Cloddiwyd y safle gan yr archaeolegydd Syr Arthur Evans, a ail-adeiladodd ran helaeth o'r adfeilion. Mae'r safle yn cynnwys dros 1,000 o ystafelloedd gwahanol.
Cysylltir y safle yn draddodiadol a Minos, brenin Creta ym mytholeg Groeg.