Graff llinell

Oddi ar Wicipedia

Diagram neu graff yw graff llinell wedi ei seilio ar blân Cartesaidd, ardal dau ddimensiwn wedi ei ffurfio gan groestoriad dwy linell berpendicwlar. Cynrychiola unrhyw bwynt o fewn y plân berthynas benodol rhwng y ddau ddimensiwn a ddisgrifir gan y llinellau croestoriadol. Dyma'r fformat graff mwyaf cyffredin ar gyfer arddangos data wrth ddadansoddi ymddygiad cymhwysol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.
Eginyn erthygl sydd uchod am fathemateg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato