Gorynys Ards

Oddi ar Wicipedia
Gorynys Ards
Castell Kirkistown
Mathgorynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Down Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
GerllawMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.5°N 5.5°W Edit this on Wikidata
Map

Penrhyn yn Swydd Down, Gogledd Iwerddon, ar arfordir gogledd-ddwyrain ynys Iwerddon, yw Gorynys Ards[1] (Gwyddeleg: Leithinis na hArda). Mae'n gwahanu Loch Cuan (Strangford Lough) oddi wrth Môr Iwerddon. Mae trefi a'r pentrefi ar y penrhyn yn cynnwys Donaghadee, Millisle, Portavogie a Portaferry. Mae tref fawr Newtownards a dinas Bangor ar gyrion tir mawr y penrhyn yn y gogledd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)