Gorsaf reilffordd Kamloops

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf Reilffordd Kamloops

Mae Kamloops yn dref yn British Columbia, Canada, ac mae ganddi ddwy orsaf drên. Mae trenau VIA Rail (y wasanaeth genedlaethol i deithwyr) yn stopio yng ngorsaf Gogledd Kamloops. Defnyddir gorsaf reilffordd Kamloops gan drenau'r ''Rocky Mountaineer'', sydd yn mynd o Vancouver a Gogledd Vancouver ar draws mynyddoedd y Rockies i Jasper, Banff a Calgary.[1]

Ffurfiwyd cymdeithas ym 1994 i adfer locomotif stêm, sef rhif 2141 o'r Rheilffordd Gogledd Canada, a adeiladwyd ym 1912. Ar 26 Mehefin 2002, dechreuodd gwasanaeth reolaidd gan Reilffordd Dreftadaeth Kamloops, bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul, gan gynnwys ailgread o ladrad enwog.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Seat 61
  2. "Gwefan y Gymdeithas Reilffordd Dreftadaeth Kamloops". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-01. Cyrchwyd 2012-11-04.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]