Gorsaf reilffordd Dunedin
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1906 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dunedin |
Sir | Dunedin City |
Gwlad | Seland Newydd |
Cyfesurynnau | 45.8753°S 170.5089°E |
Cod post | 9016 |
Rheolir gan | KiwiRail |
Perchnogaeth | Dunedin City Council |
Statws treftadaeth | Heritage New Zealand Category 1 historic place listing |
Manylion | |
Mae Gorsaf reilffordd Dunedin yn orsaf yn ninas Dunedin, ar Ynys y De, Seland Newydd.
Cynlluniwyd yr orsaf gan George Troup ac oedd hi’r un brysuraf yn Seland Newydd pan agorwyd yr orsaf. Dechreuwyd gwaith adeiladu, yn defnyddio basalt Canol Otago, maen Oamaru, ithfaen Peterhead a theils Marseilles, am gost o £800,000 ym 1904. Gelwir Troup 'Gingerbread George' oherwydd yr adeilad.[1]
Mae’r orsaf yn cynnwys bwyty, canolfan celf a Neuadd Enwogrwydd Chwaraeon Seland Newydd.[1]
Erbyn hyn, rhedir dim ond trenau ar gyfer twristiaid; trenau Rheilffordd Dyfnant Taieru i Pukerangi a Middlemarch a threnau eraill ar hyd yr arfordir.[2]