Gogledd Ossetia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o Ogledd Ossetia

Gweriniaeth yn y Cawcasws sy'n rhan o Ffederasiwn Rwsia yw Gogledd Ossetia neu Gweriniaeth Gogledd Ossetia-Alania (Rwseg: Респу́блика Се́верная Осе́тия–Ала́ния; Osseteg: Республикæ Цæгат Ирыстон — Алани). Yn hanesyddol, mae'n rhan o Ossetia, un o sawl cenedl hanesyddol bychan yn y Cawcasws. Mae ganddi boblogaeth o tua 710,000. Ei phrifddinas yw Vladikavkaz.

I'r de mae'n ffinio â Georgia (De Ossetia). O fewn Rwsia ei hun mae'n ffinio â Gweriniaeth Kabardino-Balkar, Stavropol Krai, Gweriniaeth Chechnya, a Gweriniaeth Ingushetia.

Ei phwynt uchaf y Mynydd Dzhimara (4780 m).

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.