Glas (cerdd)

Oddi ar Wicipedia

Cerdd Gymraeg gan y bardd Bryan Martin Davies ydy "Glas". Sonia'r gerdd am brofiadau'r bardd wrth iddo adael dyffryn lofaol ym Mrynaman er mwyn i'r Mwmbwls ger Abertawe am y diwrnod. Cerdd synhwyrus iawn ydyw, sy'n disgrifio'r holl bethau a wêl y bardd yn ystod y diwrnod. Ar ddiwedd y gerdd fodd bynnag, rhaid i'r bardd ddychwelyd i'r gartref ac i'r hyn a ddisgrifir fel "dyffryn du totalitariaeth glo".

Mae'r gerdd yn sôn am y bardd yn mynd i draeth Abertawe ar ei Sadyrnau. Mae'n gweld cychod, cestyll, a blodau. Mae'n teithio ar drên coch o gwmpas y bae i'r Mwmbwls. Mae'n eistedd ar y tywod ac yn cymryd i mewn yr olygfa ac yn edrych ar y môr. Mae'n gweld gwylanod aflonydd, llongau yn hwylio'n araf dros y gorwel, a chraeniau uchel dros Landŵr. Cly'r gerdd gyda disgrifiad o'r Sadyrnau fel "y dyddiau glas", ac efe a'i gyfeillion fel "ffoaduriaid undydd, brwd".

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Atgofion y bardd am sawl Dydd Sadwrn yn ystod ei blentyndod a geir yn y gerdd ac mae yma gymysgedd o hapusrwydd a thristwch. Symboleiddir yr hapusrwydd gan y gair "glas" a'r tristwch gan y gair "du". Cysylltir yr ysgafnder a'r hapusrwydd ag ardal y Mwmbwls, a'r duwch a'r tristwch gyda chartref y bardd yn ardal lofaol, ddiwydiannol Brynaman.

Cofia'r bardd y pethau syml hynny fyddai'n mynd â'i fryd ar Ddydd Sadwrn braf, a'r argraff fwyaf arno oedd y lliw glas o'i gwmpas, lliw y môr, y "môr yn Abertawe'n rhowlio chwerthin". Yn ei ddychymyg mae'r bardd yn ail-greu'r llun a gofia. Sonia am "cychod a chestyll a chloc o flodau" yn ogystal â'r "pensil coch o drên" y bydden nhw'n teithio arno o amgylch y bae i'r Mwmbwls.

Yna, disgrifia'r bardd eu profiadau yn eistedd ar y traeth ac yn syllu mewn syndod ar yr olygfa, mae eu synhwyrau wedi eu deffro. Gwelent wylanod yn "ddartiau gwyn" aflonydd yn anelu am y creigiau", a'r llongau yn sglefrio dros y môr tawel. Ar ddechrau'r pennill olaf mae'r bardd yn cyfleu ei fwynhad o'r Sadyrnau hyn drwy gyfeirio atynt fel "Sadyrnau'r syndod / Y dyddiau glas". Fodd bynnag ceir gwrthgyferbyniad yn y llinellau olaf wrth i'r bardd ddweud mai rhywbeth byr ei barhad oedd yr hapusrwydd. Ar ddiwedd y dydd rhaid oedd ddychwelyd adref i'r "dyffryn du".

Mesur[golygu | golygu cod]

Cerdd benrhydd yw hon, a gyfansoddir yn vers libre neu'r wers rydd. Mae'r mesur yn rhoi rhyddid i'r bardd greu ei siâp ei hun i'r gerdd ac amrywio hyd y llinellau. Defnyddia linellau byrion, er mwyn tynnu ein sylw at eiriau pwysig megis "yn yfed y glesni" ac "a sbiem yn syn" i gyfleu rhyfeddod plentyndod. Wrth gloi'r gerdd cawn ddwy linell fer yn darlunio ei fywyd ym Mrynaman sydd mewn gwrthgyferbyniad i holl liwiau'r olygfa yn Abetawe—"o ddyffryn du/totalitariaeth glo."

Defnyddia rythmau'r iaith lafar a ddefnyddiwn wrth siarad ac felly, mae'r llinellau'n rhedeg yn naturiol. Nid oes odl yn y gerdd. Y rhythmau llafar sy'n ei chynnal. Mae amrywiaeth o rythmau yn y gerdd. Rhai cofio mai hel atgofion mae'r bardd ac felly, ar ddechrau'r ail bennill, gallech ddadlau fod y ferf "Eisteddem" yn arafu'r tempo. Mae'r tempo'n fywiog wrth i'r bardd ymgolli yng nghampau'r gwylanod ac yna'n arafu unwaith eto wrth ryfeddu at y llongau banana. Yn y trydydd pennill gwelwn fod y tempo'n gyson araf gan mai myfyrio uwchben y profiad y mae'r bardd.

Arddull a thechnegau[golygu | golygu cod]

Mae'r gerdd yn dibynnu ar y gwrthgyferbyniad rhwng y ddau liw, glas a du. I'r bardd, cynrychiola'r lliw glas Sadyrnau hapus ei blentyndod ar lan y môr ("Pan oedd Sadyrnau'n las") pan gâi ddianc rhag gormes y lliw du yr oedd rhaid iddo fyw yn ei gysgod weddill yr wythnos yn ei bentref glofaol ("totalitariaeth glo"). Ar y Sadyrnau glas, câi brofi rhyddid, mwynhau ei hun, gweld pethau hardd a lliwgar. Yn ystod y dyddiau du, y pwll glo oedd y meistr ar bob agwedd o fywyd.

Defnyddia'r bardd nifer o drosiadau trawiadol yn ei gerdd. Mae'n debyg mai'r symlrwydd sy'n eu gwneud yn drawiadol, er enghraifft "pensil coch" yw'r trên, ac i blentyn lliw hapusrwydd yw coch, a "gwydr glas" yw'r môr. Mae'r rhain yn drosiadau o fyd plentyndod ac yn addas gan mai cerdd am atgofion plentyndod yw hi. Sylwer hefyd mai'r lliwiau cynradd yw'r rhain—y lliwiau cyntaf y byddai plentyn yn eu dysgu. Trosiad effeithiol arall yw "dartiau gwyn y gwylain aflonydd", am fod ehediad gwylanod yn debyg iawn i'r modd y teflir dart at fwrdd. Hefyd mae'r gwylanod yn anelu at darged sef y creigiau fel yr anelir dart at y bwrdd. Yn y pennill olaf, gelwir y bardd a'i deulu yn "ffoaduriaid" oherwydd eu bod yn dianc am gyfnod o'u caethiwed yn ardal Brynaman.

Mae'r gerdd hefyd yn cynnwys nifer o ansoddeiriau effeithiol, gan gynnwys "undydd, brwd" a ychwanegir at y trosiad olaf. Maent yn ansoddeiriau effeithiol gan eu bod yn disgrifio'r bardd a'i deulu i'r dim. Dim ond am ddiwrnod y caent adael eu cartref ond roeddent wrth eu boddau ac yn frwdfrydig iawn y diwrnod hwnnw. Ansoddair anghyffredin, a ymddengys yn yr ail bennill, yw "newynog". Disgrifio llygaid y bardd wrth iddo syllu o'i gwmpas mewn syndod a wna. Wrth ei ddefnyddio, mae'r bardd yn cyfleu nad oedd ei lygaid wedi arfer gweld y fath harddwch. Pwysleisir gormes y cwm glofaol ar fywyd y plant drwy gysylltu'r gair "ffoaduriaid" gyda'u hymateb ar ôl cyrraedd glan y môr. Maent yn "yfed y glesni", a "llygaid newynog" sydd ganddynt sydd yn "syllu'n awchus". Yn union fel ffoaduriaid sy'n llwgu ac yn sychedig maent yn awchu am y wledd sydd o'u blaen—yr olygfa fywiog a hapus ar lan y môr yn Abertawe.

Yn y pennill cyntaf, mae enghraifft o gyflythrennu ("roedd cychod a chestyll a chloc o flodau / yn llanw'r diwrnod") yn ymestyn ar draws y llinell gan roi rhythm sionc i'r llinell honno, a thrwy hynny'n cyfleu hapusrwydd y bardd. Yn yr ail bennill, defnyddir cytseiniaid caled yn y llinellau "Dilynem ddartiau gwyn y gwylain aflonydd / yn trywanu targed y creigiau", ac mae ailadrodd y llythrennau t ac r yn cyfleu'r ddelwedd o rywbeth caled yn taro'r graig.

Ar ddechrau'r gerdd mae enghraifft syml o bersonoli wrth i'r bardd ddisgrifio'r tonnau yn torri ar y traeth: "a môr yn Abertawe'n rhowlio chwerthin / ar y traeth". Awgrymu pleser y plentyn y mae er mai'r tonnau a ddisgrifir. Mae teimladau'r bardd yn goferu i'r awyrgylch o'i gwmpas. Dyma sy'n ei wneud yn bersonoli clyfar.

Neges ac agwedd y bardd[golygu | golygu cod]

Neges y gerdd o bosib yw mai'r cyfnodau byr mewn bywyd yw'r rhai arbennig, cofiadwy, yng nghanol dyddiau digon undonog a diflas weithiau. Rhain yw'r dyddiau sy'n aros yn y cof, er mor fyr ydynt. Mae hapusrwydd y bardd i'w weld yn glir yn y gerdd ar y dyddiau gwahanol hyn. Mae ei hapusrwydd hyd yn oed yn goferu i'r pethau sydd o'i gwmpas. Harddwch, brwdfrydedd a mwynhad a welir ar "Sadyrnau'r syndod, / y dyddiau glas". Ond mae'n sylweddoli mai dychwelyd fydd yn rhaid i ormes tywyllwch, düwch ac anobaith y pyllau glo. Atgofion melys a rhamantus a geir gan Bryan Martin Davies wrth iddo flasu bywyd gwahanol ar ddiwrnod braf o haf yng nghyfnod ei blentyndod.