Georgi Parvanov

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Georgi Parvanov, Arlywydd Bwlgaria

Arlywydd Bwlgaria o 22 Ionawr 2002 hyd 22 Ionawr 2012 oedd Georgi Sedefchov Parvanov (Bwlgareg Георги Седефчов Първанов) (ganwyd 28 Mehefin 1957).

Fe'i hetholwyd yn etholiadau arlywyddol mis Tachwedd 2001. Ailetholwyd ym mis Hydref 2006 â 73% o'r bleidlais yn yr rownd derfynol yn erbyn y cenedlaetholwr Volen Siderov, y tro cyntaf i arlywydd Bwlgaria gael ei ailethol ers cwymp Comiwnyddiaeth. Cyn dod yn arlywydd roedd yn aelod o Blaid Sosialaidd Bwlgaria. Gadawodd y blaid ar ôl cael ei ethol yn arlywydd gan na chaiff Arlywydd Bwlgaria fod yn aelod o blaid wleidyddol. Mae o blaid aelodaeth Bwlgaria o'r Undeb Ewropeaidd a NATO.