Gavrilo Princip

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gavrilo Princip

Llofrudd yr Archddug Franz Ferdinand a'i wraig Sofía Chotek oedd Gavrilo Princip , 25 Gorffennaf 1894 - 28 Ebrill 1918. Trwy hyn, dechreuodd y gyfres a ddigwyddiadau a arweiniodd at ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ganed Princip yn Obljaj, Bosnia Herzegovina. Roedd yn aelod o'r cylch "Bosnia Ieuanc", oedd dan reolaeth "Y Llaw Ddu", plaid oedd yn dymuno uno Bosnia gyda Serbia. Ar 28 Mehefin 1914, roedd yr Archddug Franz Ferdinand, aer coron ymerodraeth Awstria-Hwngari, yn ymweld a Sarajevo. Saethwyd ef a'i wraig gan Princip, a buont farw yn fuan wedyn.

Ceisiodd Princip ei ladd ei hun, ond methodd, a chymerwyd ef i'r ddalfa gan yr heddlu. Dedfydwyd ef i garchar am oes, a bu farw o'r diciau yng ngharchar yn 1918.