Gévaudan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen arfbais Gévaudan

Un o daleithiau hanesyddol Ffrainc oedd Gévaudan (Ocsitaneg: Gavaudan neu Gevaudan). Yn ddiweddarach daeth yn département Lozère, sydd a ffiniau bron yr un fath.

Ceir nifer fawr o feini hirion a chromlechi o'r cyfnod cynhanesyddol yn yr ardal yma, yn arbennig Cham des Bondons ar lethrau Mynydd Lozère, sy'n un o'r safleoedd pwysicaf yn Ewrop.

Daw'r enw Gévaudan o enw llwyth Celtaidd y Gabales. Ymladdasanr dros Vercingetorix yn erbyn Iŵl Cesar. Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd pedair dinasbwysig yma, y brifddinas Anderitum (yn awr Javols), Condate (Chapeauroux), Gredone (Grèzes) ac Adsilanum. Yn y Canol Oesoedd, daeth Mende yn bwysig.

Yn y 14eg ganrif, daeth Gévaudan yn rhan o Languedoc, er gyda mesur o ymreolaeth. Yn 1790, daeth yn département Lozère. Mae'r ardal yn adnabyddus am hanes Bwystfil Gévaudan, anifeiliad tebyg i fleiddiaid a laddodd nifer sylweddol o bobl rhwng 1764 a 1767..

Lleoliad Lozère yn Ffrainc; roedd Gévaudan bron a'r un ffiniau