Fuzûlî
Oddi ar Wicipedia
Fużūlī (فضولی) oedd enw barddol Muhammad bin Suleyman (محمد بن سليمان) (tua 1483–1556). Ystyrir ef yn un o'r pwysicaf o feirdd y diwan. Ysgrifennai gerddi mewn tair iaith, Twrceg Azerbaijan, Perseg ac Arabeg. Ymddiddorai mewn mathemateg a seryddiaeth hfyd.
Credir iddo gael ei eni tua 1483 yn yr hyn sy'n awr yn Iraq, yn ôl pob tebyg yn Karbalā’ neu an-Najaf. Roedd ei deulu yn rhan o lwyth y Bayat, un o'r llwythau Twrcaidd. Yn 1534, concrwyd yr ardal yma gan yr Ymerodraeth Ottomanaidd dan y Swltan Suleiman I.
Mae ei waith yn bennaf ynghylch cariad, ond gydag ystyr ddwyfol iddo hefyd, yn unol a thraddodiad y Sufi.