Frederick Sanger

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Frederick Sanger

Biocemegydd o Sais oedd Frederick Sanger (13 Awst 191819 Tachwedd 2013)[1] a enillodd Gwobr Cemeg Nobel ddwywaith. Enillodd y wobr yn gyntaf ym 1958 "am ei waith ar strwythur proteinau, yn enwedig inswlin",[2] ac enillodd eto ym 1980 gyda Walter Gilbert "am eu cyfraniadau parthed mesur dilyniannau basau mewn asidau niwclëig"; enillodd Paul Berg y wobr hefyd ym 1980.[3]

Fe'i ganwyd yn Rendcomb, Swydd Gaerloyw, yn fab i'r meddyg Frederick Sanger a'i wraig Cicely (née Crewdson).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Wright, Pearce (20 Tachwedd 2013). Frederick Sanger obituary. The Guardian. Adalwyd ar 24 Tachwedd 2013.
  2. (Saesneg) The Nobel Prize in Chemistry 1958. Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 24 Tachwedd 2013.
  3. (Saesneg) The Nobel Prize in Chemistry 1980. Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 24 Tachwedd 2013.


Scientist.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddonydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.