Freaky Friday
Oddi ar Wicipedia
Nofel glasurol i blant gan Mary Rodgers ydy Freaky Friday, cyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau yn1972.
[golygu] Addasiadau
Addaswyd y nofel yn ffilm gan Rodgers yn 1976, ac mae'n serennu Barbara Harris a Jodie Foster. Addaswyd yn ffilm deledu Disney yn 1995, yn serennu Shelley Long a Gaby Hoffmann, ynddi mae Ellen ac Annabelle Andrews, yn cael eu cyfnewid gan gadwyn hudol mewn ymateb i'w dymunion i newid lle. Ail-wnaethwyd y ffilm yn 2003 yn serennu Jamie Lee Curtis a Lindsay Lohan. Newidwyd enwau'r cymeriadau i Tess Coleman ac Anna Colemanl. Maent yn cael eu cyfnewid gan fisgedi ffawd a roddwyd iddynt gan hen fenyw Tseiniaidd y nos Iau cynt, ar ôl iddi eu or-glywed yn dadlau ym mwyty ei merch. Ailenwyd Ben yn Harry, ac mae tad y plant wedi marw.
Seilwyd ffilm teledu ar y nofel a ddilynodd Freaky Friday, Summer Switch, yn serennu Robert Klein a Scott Schwartz, yn 1984 fel rhan o gyfres ABC Afterschool Specials series.

