Ffwythiant gwaith

Oddi ar Wicipedia
Ffwythiant gwaith
Enghraifft o'r canlynolnodwedd ffisegol Edit this on Wikidata
Mathegni Edit this on Wikidata

Yn ffiseg cyflwr-solet, ffwythiant gwaith yw'r lleiafswm o waith thermodynamig (hy egni) sydd ei angen i symud electron o'r lefel Fermi (solid) i wactod sydd y tu allan i'r arwyneb solid. Hynny yw, yr egni sydd ei angen i echdynnu electron o solet.

Diffiniad[golygu | golygu cod]

Mae'r ffwythiant gwaith W ar gyfer unrhyw arwyneb yn cael ei ddiffinio gan y gwahaniaeth[1]

ble mae e yn cyfeirio at wefr yr electron, ϕ yw'r potensial electrostatig yn y gwactod ger yr arwyneb a EF yw'r lefel Fermi (potensial electrstatig yr electronau) y tu fewn i'r deunydd. Mae'r term yn cyfeirio at egni'r electron pan fo'n llonydd yn y gwactod ger yr arwyneb. H.y. mae'r ffwythiant gwaith yn cael ei ddiffinio fel y gwaith thermodynamig sydd ei angen i symud electron o'r deunydd i gyflwr llonydd yn y gwactod ger yr arwyneb.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kittel, Charles. Introduction to Solid State Physics (arg. 7th). Wiley.