Ffigur fertig

Oddi ar Wicipedia

Mewn geometreg, ffigwr fertig, yn fras, yw'r ffigur a ddaw i'r golwg pan fo cornel polyhedron neu bolytop wedi'i sleisio i ffwrdd.

Gellir creu ffigur fertig drwy ddewis cornel (neu 'fertig') unrhyw bolygon a rhoi marc ar bob ymyl sy'n cysylltu â'r gornel honno. Yna, tynnir llinell o un pwynt i'r llall; dyma'r llinellau sy'n amlinellu ac yn creu polygon newydd, sef y ffigur fertig.

Mae diffiniad ffurfiol o'r ffigur yn eang ac yn newid o un cyd-destun i'r llall. Er enghraifft, mae Coxeter yn amrywio, yn ddibynol ar yr hyn a drafodir (e.e. 1948, 1954).[1][2]

Nodweddion cyffredinol[golygu | golygu cod]

Mae ffigur fertig ar gyfer polytop-n yn (n-1) -polytop. Er enghraifft, mae ffigur fertig ar gyfer polyhedron yn ffigwr polygon, ac mae'r ffigur fertig ar gyfer 4-polypop yn bolyhedron. Mae ffigurau fertig yn arbennig o arwyddocaol ar gyfer polytopau unffurf ayb gan fod un ffigwr fertig yn diffinio'r polytop cyfan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Coxeter, H. et al. (1954).
  2. Skilling, J. (1975).