Fernando Alonso

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Fernando Alonso


Gyrrwr rasio Fformiwla Un o Sbaen yw Fernando Alonso Diaz (ganed 29 Gorffennaf, 1981). Mae wedi ennill pencampwriaeth y byd ddwywaith, yn 2005 a 2006.

Ganed ef yn Oviedo, Sbaen. Dechreuodd rasio yn Fformiwla Un yn 2001, yn Grand Prix Awstralia, gyda thîm Minardi. Yn 2002 ymunodd a thîm Renault. Enillodd ei ras gyntaf yn Grand Prix Hwngari 2003, y gyrrwr ieuengaf i ennill Grand Prix. Enillodd bencampwriaeth y byd gyda Renault yn 2005, y gyrrwr ieuengaf erioed i ennill y bencampwriaeth.

Ymunodd a thîm McLaren ar gyfer tymor 2007. Cafodd dymor anhapus gyda'r tîm yma, gan ddod i amau fod McLaren yn ffafrio ei bartner, y Sais Lewis Hamilton. Gorffennodd yn drydydd yn y bencampwriaeth. Cyhoeddwyd ei fod yn dychwelyd at Renault ar gyfer tymor 2008.