Fedir Odrach

Oddi ar Wicipedia
Fedir Odrach
Ganwyd13 Chwefror 1912, 13 Mawrth 1912 Edit this on Wikidata
Miasiacičy Edit this on Wikidata
Bu farw7 Hydref 1964 Edit this on Wikidata
o clefyd serebro-fasgwlaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Vilnius Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Llenor Belarwsiaidd yn yr iaith Wcreineg a ymfudodd i Ganada oedd Fedir Odrach (13 Chwefror 19127 Hydref 1964). Roedd yn un o lenorion trydydd cyfnod llenyddiaeth Wcreineg Canada.

Ganwyd Fedir Sholomitsky ger Pinsk, Belarws. Credir taw'r Felarwseg oedd ei famiaith, nid Wcreineg, a'i fod wedi cuddio hanes ei fywyd cyn iddo adael Dwyrain Ewrop am iddo wrthwynebu'r awdurdodau comiwnyddol. Ymfudodd i Toronto yn 1953, a chafodd waith mewn siop argraffu. Bu farw o strôc yn 52 oed. Wedi ei farwolaeth, cafodd nifer o'i weithiau eu cyfieithu i'r Saesneg gan ei ferch, Erma.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Michael Posner, "Unsung writer, unknown identity", The Globe and Mail (16 Mawrth 2006). Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2018.