Etch A Sketch

Oddi ar Wicipedia
Etch A Sketch
Enghraifft o'r canlynoltegan Edit this on Wikidata
CrëwrAndré Cassagnes Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1959 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ohioart.com/brands/etch-sketch Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tegan yw'r Etch A Sketch (Ffrangeg: écran magique neu ardoise magique) a ddyfeisiwyd gan André Cassagnes. Mae'n galluogi'r defnyddiwr i dynnu lluniau ar sgrin.

Ceir haen o bowdr alwminiwm mân o dan y sgrin, a thrwy troi'r nobiau gellir symud nodwydd o dan y sgrin gan grafu llinellau trwy'r powdr. I ddileu'r llun, mae'r defnyddiwr yn ysgwyd y tegan i ailorchuddio'r sgrin â'r alwminiwm.[1]

Cafodd ei werthu'n gyntaf ym 1960 ac erbyn marwolaeth ei ddyfeisiwr yn 2013 roedd dros 100 miliwn o Etch A Sketches wedi eu gwerthu ar draws y byd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Fox, Margalit (3 Chwefror 2013). André Cassagnes, Etch A Sketch Inventor, Is Dead at 86. The New York Times. Adalwyd ar 6 Chwefror 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am degan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.