Englynion y Juvencus

Oddi ar Wicipedia

Cyfres o englynion yw Englynion y Juvencus, a elwir felly am eu bod ar glawr yn Llawysgrif Juvencus, Llawysgrif Ladin o'r 9ed ganrif a gedwir yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt. Er mai Lladin yw iaith y llawysgrif, Hen Gymraeg yw iaith yr englynion.

Rhan o gerdd storïol yw'r gyfres gyntaf o englynion a gwaith crefyddol yw'r ail. Ni wyddus pwy a weithiodd yr englynion hyn na pha bryd, ond dichon mai dyma'r enghraifft gynharaf o farddoniaeth Gymraeg sydd ar glawr[1] (diweddarach yw'r llawysgrifau sy'n cynnwys yr Hengerdd, ond credir fod y canu hwnnw yn perthyn i'r 6g).

Testun[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Helen McKee, The Cambridge Juvencus manuscript glossed in Latin, Old Welsh, and Old Irish: Text and Commentary (Aberystwyth: CMCS Publications, 2000)
  • T. Arwyn Watkins, 'Englynion y Juvencus', Bardos (gol. R. Geraint Gruffydd, Caerdydd, 1982)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyddoniadur Cymru, Yr Academi Gymraeg, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2008
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.